
Panel Gweithredol
Mae gan y Panel Gweithredol swyddogaeth eithaf amrywiol gan ymdrin â phynciau megis penodi uwch swyddogion, ystyried materion yn ymwneud â disgyblaeth a phensiynau, ymdrin â materion archwilio penodol yn ogystal ac ymdrin â materion polisi a chyfansoddiadol fel y cyfyd yr angen.
Mae fel arfer yn ymdrin ag ymatebion i bapurau ymgynghorol a datblygiadau eraill o ran polisi, ac yn gwneud argymhellion i'r awdurdod tân ar ei bolisau allweddol, gan gynnwys y Cynllun Lleihau Risg. Mae'r Panel, fel arfer, yn ymdrin â phenodi is-bwyllgor arbennig at y diben.
Gosodwyd Cylch Gwaith y Panel yn 2001 ac fe'i hadolygir fel y bo'r angen. Mae'n cynnwys y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd a dau aelod o bob awdurdod cyfansoddol (pedwar ar ddeg i gyd). Y Cadeirydd neu, yn ei absenoldeb, yr is-Gadeirydd, sy'n ei gadeirio.
Mae'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, rhwng cyfarfodydd yr Awdurdod Tân ac Achub, er y gellir cynnal cyfarfodydd ychwanegol yn dibynnu ar y gwaith, ac yn benodol, pa faterion personél sydd angen eu trafod.
Cliciwch yma i weld Cylch Gwaith y Panel Gweithredol
Aelodau'r Panel Gweithredol
Cynghorwyr:
Meirick Ll Davies (Cadeirydd)
Peter Lewis (Dirprwy Gadeirydd)
Michael Dixon