Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelwch dros yr haf

Dave Hughes ydw i, Pennaeth Diogelwch Tân ac Ardal y Gorllewin.

Fy ngwaith i ydy cadw pobl yn ddiogel a helpu i atal tanau rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Heddiw, rwyf eisiau siarad am danau sy’n digwydd yn aml yn ystod yr haf.

Pan mae’r tywydd yn gynnes, mae’r glaswellt a’r llystyfiant fel arfer yn sych, sy’n golygu bod tân sy’n cynnau ar ddamwain yn yr awyr agored yn gallu lledaenu’n gyflym iawn, gan ddinistrio popeth yn ei lwybr. Gydag awel ysgafn hefyd, bydd y tân yn lledaenu’n gyflymach fyth.                                                                          

Rwy’n siŵr eich bod i gyd wedi gweld y lluniau dramatig o nifer o danau yn yr awyr agored dros y misoedd diwethaf. Mae llawer o’r tanau hyn wedi arwain at alwadau niferus i’r ystafell reoli gan aelodau pryderus o’r cyhoedd. Mae pob tân bychan yn gallu clymu adnoddau am oriau, gan ein hatal rhag mynd at ddigwyddiadau eraill sy’n peryglu bywydau.

Sigarét yn cael ei thaflu drwy ffenest y car, barbeciw sy’n rhoi gwrych ar dân, neu goelcerth a neb yn cadw llygad arni - gallai’r rhain gynnau tân sy’n dinistrio aceri o gefn gwlad, cnydau a bywyd gwyllt.

Mae’r cyfnod pryd bydd ffermwyr a thirfeddianwyr yn llosgi dan reolaeth ar ben – ond rwy’n gwybod bod rhai pobl yn hoffi cael gwared ar sbwriel neu doriadau yn eu gardd gefn dros fisoedd yr haf. Rwy’n apelio arnynt i feddwl yn ofalus cyn gwneud hynny, ac os byddant yn gwneud, eu bod yn sicrhau bod camau rhagofalus yn cael eu dilyn a bod ein hystafell reoli yn cael gwybod ar 01931 522 006.

Er ei bod yn anodd i sawl un gredu, mae rhai o’r tanau glaswellt ac eithin yn cael eu cynnau’n fwriadol. Mae tanau glaswellt bwriadol yn drosedd ddifrifol a bydd holl rym y gyfraith yn delio â nhw. Os byddwch chi’n gweld rhywun yn cynnau tân yn fwriadol, ffoniwch yr Heddlu ar 101 neu cysylltwch â Crime Stoppers ar 0800 555 111.

Os ydy’r tân yn dechrau yn nes at adref, gallai ddinistrio eich gardd, lledaenu i’ch tŷ a pheryglu bywydau’r bobl y tu mewn. Gall barbeciw fod yn rhywbeth pleserus ond mae angen i chi ystyried diogelwch wrth goginio yn yr awyr agored – cadwch y barbeciw draw oddi wrth anifeiliaid anwes a phlant, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar y lludw’n ofalus. Bydd llawer o bobl hefyd yn mwynhau mynd allan am ddiod neu ddau neu fod yn yr ardd gartref yn ystod y nosweithiau hafaidd – a byddwn i’n eich annog i osgoi coginio ar ôl bod yn yfed, yn enwedig os byddwch yn teimlo’n llwglyd ar ôl dychwelyd adref ar ôl noson allan. Y ffordd orau o fodloni’r awydd am fwyd yw cael tecawê neu baratoi brechdan cyn i chi fynd allan.

Da chi - mwynhewch yr heulwen ond arhoswch yn ddiogel.

I gael gwybod beth yw’r datblygiadau diweddaraf, dysgu mwy am gystadlaethau diogelwch tân neu gael gwybod am gyfleoedd am swyddi gyda’r Gwasanaeth, dilynwch ni ar Twitter @NorthwalesFire, byddwch yn un o’n cefnogwyr ar Facebook /northwalesfireservice neu hoffwch ni ar Instagram – northwalesfire.

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen