Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu pwysigrwydd larymau mwg yn dilyn tân trydanol  ar Ynys Môn

Postiwyd

Unwaith eto mae pwysigrwydd larymau mwg yn cael ei amlygu wedi i ddwy ddynes gael dihangfa lwcus o dân mewn eiddo yn Llanfair yn Neubwll, Ynys Môn yn ystod oriau mân y bore yma.

Anfonwyd criwiau o Rosneigr a Chaergybi i’r eiddo dau lawr ym Mryn Trewan, Llanfair yn Neubwll am 03.45 o’r gloch y bore (Dydd Llun 28ain Ionawr).

Cafodd y preswylwyr eu rhybuddio am y tân gan larymau mwg a llwyddodd y ddwy i ddianc yn ddianaf.

Credir bod y tân wedi ei achosi gan focs  ffiwsiau.

Meddai Mike Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Yn ddiamheuol fe allem fod wedi yn delio gyda digwyddiad trasig arall yma yng Ngogledd Cymru oni bai bod larymau mwg wedi eu gosod yn yr eiddo.

 “Mae’n bwysig bod mor barod â phosibl rhag tân, drwy wneud yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a llwybrau dianc clir  i’ch galluogi chi a’ch teulu i fynd allan cyn gynted â phosib. 

“Mae’r digwyddiad hefyd yn amlygu peryglon tanau trydanol – fe allant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le, Rydym yn apelio ar drigolion  i sicrhau bod ystafelloedd lle cedwir eitemau trydanol megis bocsys ffiwsiau yn glir o sbwriel neu ddeunyddiau hylosg eraill a all gynorthwyo lledaeniad tân.

"Hefyd, dyma gamau syml y gallwch chi eu cymryd i helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • PEIDIWCH Â gorlwytho socedi gyda phlygiau
  • ARCHWILIWCH wifrau’n rheolaidd rhag ofn eu bod wedi treulio
  • TYNNWCH blygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio
  • CADWCH gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da."
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen