Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apel yn dilyn 8 tân a gafodd eu cynnau yn fwriadol yn Wrecsam

Postiwyd

Lansiwyd ymchwiliad gan Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dilyn 8 tân a gafodd eu cynnau yn fwriadol yn Wrecsam yn ystod oriau man y bore ‘ma, Dydd Mawrth, 28 Awst.

Yn y digwyddiad tua 12.08am rhoddwyd dau gerbyd ar dân yn Ffordd Colwyn a chafwyd adroddiad hefyd am dân gwair wrth ymyl Smithfield Road.

Am 1.14am rhoddwyd bin ar dân yn Ffordd Holt a wnaeth ddifrodi blwch cyfathrebu BT. Yna am 1.34am cafodd bws mini y tu allan i Ysgol Morgan Llwyd ar Cefn Road ei roi ar dan.

Y nesaf i gael ei dargedu oedd goleuadau traffig Garner Road/Wynnstay Avenue am 1.43am, tân gwair am 2.56am a galwyd swyddogion i Glwb Rygbi Wrecsam ar Ffordd Bryn Estyn am 6.30am.

Meddai Arolygydd Tref Wrecsam, Vic Powel: “Rydym yn credu bod y digwyddiadau i gyd yn gysylltiedig a bod rhywun yng nghymuned Caia Park yn gwybod pwy sy’n gyfrifol.

“Mae cychwyn tanau yn arbennig o beryglus ac yn beth anghyfrifol iawn i’w wneud, mae’n beryg i fywyd ac yn wastraff adnoddau’r gwasanaethau brys.

“Rydym yn apelio ar y gymuned am wybodaeth a fydd yn ein cynorthwyo gyda’r ymchwiliad.”

Meddai Tim Owen, Rheolwr Lleihau Cynnau Tân yn Fwriadol: “Mae cynnau tân yn fwriadol yn rhoi pwysau ychwanegol ar adnoddau tân ac achub ac yn rhoi’r cyhoedd mewn mwy o beryg.  

“Mae cynnau tân yn fwriadol yn ymddygiad gwrthgymdeithasol a all fod yn angheuol ac rydym yn gweithio yn agos gyda’r Heddlu ac asiantaethau partner eraill yn yr ardal i fynd i’r afael â’r broblem.”

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiadau neu yn gwybod pwy sy’n gyfrifol cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar http://www.north-wales.police.uk/contact/chat-support.aspx  gan ddyfynnu cyfeirnod W122239.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen