Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tanau gwyllt yn mynd ag adnoddau gwerthfawr yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i fod yn arbennig o ofalus a meddwl am ganlyniadau tanau glaswellt ar ôl cyfres o danau yng Ngogledd Cymru dros y 12 awr ddiwethaf sy’n parhau i fynd ag adnoddau gwerthfawr a bygwth diogelwch eiddo gerllaw.

 

Mae rhyw 30 eiddo wedi eu paratoi ar gyfer eu gwagio ym Mraichmelyn ger Bethesda oherwydd tân coedwig mawr yn yr ardal. Mae canolfan orffwys wedi ei hagor a chynghorir trigolion i gadw holl ffenestri a drysau ar gau i gadw’n ddiogel ac mae cydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn cynorthwyo. Mae chwe peiriant tân a dau gerbyd oddi ar y ffordd yno ar hyn o bryd, gan gynnwys uned meistrioli digwyddiad.

 

Mae diffoddwyr tân hefyd yn delio gyda thân eithin yng Ngharmel ger Caernarfon. Galwyd criwiau i Fynydd Cilgwyn ddoe tua 6pm ac ar ei waethaf roedd mwy na 40 o diffoddwyr tân yn delio â’r digwyddiad. Mae Heddlu Gogledd Cymru a staff awdurdod lleol wedi paratoi rhyw 15 eiddo i’w gwagio ac adroddir bod y tân yn filltir o hyd. Cafwyd rheolaeth ar y tân ac fe gadwyd llygad agos arno ond mae wedi gwaethygu eto y bore yma gyda thri peiriant tân a cherbyd oddi ar y ffordd ar hyn o bryd yn delio gyda’r digwyddiad.

 

Roedd diffoddwyr tân hefyd yn delio gyda thân ar Fynydd Bangor ddoe, gyda chriwiau yn cael eu galw am 1600 o’r gloch. Mynychodd pedwar peiriant ac mae’r tân hwn bellach dan reolaeth ond rydym ym cadw llygad arno.

 

Meddai Kevin Roberts, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

 

“Mae’n rhy gynnar i benderfynu ar union achos y tanau hyn ond rydym yn annog pawb i fod yn arbennig o ofalus pan fyddant allan yng nghefn gwlad i helpu i leihau perygl tanau – yn enwedig yn ystod y tywydd poeth a sych eithriadol hwn.

 

 

 

“Dan yr amodau sych hyn, mae tanau gwair, rhedyn ac eithin yn medru datblygu’n eithriadol o gyflym, yn enwedig pan fo gwynt yn codi, ac mae’r tanau’n medru mynd allan o reolaeth yn gyflym a lledaenu i eiddo cyffiniol neu goedwigoedd, ac mae angen wedyn i ni fynd allan i’w diffodd.

“Felly, os ydych allan o gwmpas mae’n bwysicach nag erioed dan yr amodau hyn i wneud yn siŵr bod unrhyw ddeunydd ysmygu yn cael ei ddiffodd yn iawn. Os ydych yn gwersylla, unwaith eto gwnewch yn siŵr bod tanau neu ddeunydd barbeciw wedi eu diffodd yn iawn. Gorau oll, dylech osgoi tanau agored yn llwyr yn ystod y cyfnod sych hwn.

 

“Rydym wedi derbyn nifer o adroddiadau am y tanau hyn a hoffwn ddiolch i bobl am weithredu mewn modd diogel a chyfrifol.

 

“Rydym hefyd yn gofyn i bobl gadw i ffwrdd o’r ardaloedd a effeithiwyd er mwyn caniatáu i’r diffoddwyr tân ddelio gyda’r tanau, ac er mwyn eu diogelwch eu hunain hefyd.

 

“Mae’r tanau hyn yn rhoi pwysau anferth ar ein hadnoddau, ac mae’r diffoddwyr tân yn treulio cryn amser yn gweithio i’w cael dan reolaeth. Rydym yn rheoli gwasanaeth tân ar gyfer digwyddiadau eraill hefyd, ynghyd â’r tanau gwair ac eithin hyn. Yn aml iawn, mae tanau gwair ac eithin hefyd yn digwydd mewn mannau lle mae’n arbennig o anodd cael mynediad a lle nad oes fawr o gyflenwad dŵr.

 

“Cofiwch – mae gosod tanau yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i drechu digwyddiadau bwriadol – bydd y sawl a geir yn gyfrifol yn cael eu herlyn.

 

“Dylai unrhyw un gyda gwybodaeth am droseddau o’r fath alw Crimestoppers ar 0800 555 111 yn ddi-enw.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen