Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad ar y tân ym Methesda

Postiwyd

Yn fuan ar ôl 10.40am bore ddoe, dydd Mawrth 5 Mehefin 2018, mynychodd y gwasanaethau brys dân mewn tŷ yn Ffordd Coetmor, Bethesda. Daethpwyd â'r tân dan reolaeth ond yn anffodus nid oedd y sawl oedd yn byw yn y tŷ, dyn lleol yn ei 50au, wedi goroesi a bu farw yn yr ysbyty. Mae ei berthynas agosaf yn ymwybodol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i sefydlu achos y tân, ond ar hyn o bryd nid ydym yn credu ei fod yn amheus. Bydd rhan o'r ymchwiliad hwnnw'n cynnwys siarad ag aelodau o'r gymuned a allai fod wedi bod yn yr ardal ar y pryd ac felly byddwn yn gofyn os gallwch chi gynorthwyo gyda'r ymchwiliad hwn yna cysylltwch â'r Heddlu ar 101.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen