Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Pryder yn dilyn tanau bwriadol ar gyn safle Ysbyty Gogledd Cymru

Postiwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych wedi lansio ymchwiliad ar y cyd yn dilyn digwyddiad ar gyn safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych ddoe. 

Roedd diffoddwyr tân a swyddogion heddlu yn bresennol yn ystod y digwyddiad yn yr eiddo Ddydd Mercher 4ydd Ebrill am 12.28pm a chredir bod y tân wedi i gynnau’n fwriadol.

Meddai Kevin Roberts, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau, gyda chriwiau’n treulio amser maith yn ceisio dod  â hwy dan reolaeth, sydd yn achosi oedi wrth anfon diffoddwyr tân at ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.

“Efallai mai chi neu aelod o’ch teulu fydd angen ein cymorth ni ac na fyddwn yn gallu eich cyrraedd chi cyn gyflymed neu cyn rwydded ag yr hoffem oherwydd bod yn rhaid i ni ddelio gyda thân bwriadol.

“Rydym yn rhybuddio pobl i beidio â mynd i mewn i’r adeiladau hyn er mwyn eu diogelwch hwy eu hunain. Mae’r digwyddiadau hyn yn peryglu bywydau diffoddwyr tân a’r cyhoedd.

“Mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru i drechu achosion o losgi bwriadol.”

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:  “Rydym wedi digalonni o glywed am y tân Ddydd Mercher ac mae’r ffaith ei fod wedi ei gynnau’n fwriadol yn anghredadwy.

“Y digwyddiad hwn yw’r tân diweddaraf mewn cyfres o danau ar y safle ac er gwaetha’r rhybuddion niferus gan y Cyngor a’r gwasanaethau brys, mae rhai pobl yn dal i beryglu eu hunain ac eraill, heb sôn am fygwth dyfodol yr adeilad hanesyddol hwn.

“Mae’r Cyngor a’i bartneriaid wedi cyhoeddi sawl apêl yn gyhoeddus i amlygu peryglon y safle a gofyn ar i bobl gadw draw. Mae rhannau o’r adeilad yn beryglus ac rydym am amddiffyn yr adeiladau rhag ychwaneg o ddifrod a dirywiad pellach.”

“Mae’r Cyngor yn bwrw ymlaen gyda’r broses i brynu’r tir trwy Orchymyn Pryniant Gorfodol. Mae hon yn broses hir ac nid yw wedi ei chwblhau eto. Golyga hyn bod y safle’n dal i fod ym meddiant cwmni sydd wedi ei leoli yn Ynysoedd Prydeinig  y Wyryf ac felly’r perchennog presennol sydd yn dal i fod yn gyfrifol am y problemau gyda diogelwch ar y safle.

“Fodd bynnag, hoffai’r Cyngor roi sicrwydd i drigolion a’r rhai sydd gan ddiddordeb yn nyfodol y safle ei fod wedi ymrwymo’n llawn i barhau gyda’r broses Pryniant Gorfodol i amddiffyn y safle hanesyddol hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.

Meddai’r Ditectif Arolygydd Simon Kneale o Heddlu Gogledd Cymru; “Rydym yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ystod yr ymchwiliad hwn. Hoffwn apelio ar unrhyw un sydd gan wybodaeth neu a welodd unrhyw beth amheus ar y safle ddoe neu dros y penwythnos i gysylltu gyda ni ar 101 gan ddefnyddio’r cyfeirnod  W042193.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen