Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Prosiect y Ffenics

Prosiect y Ffenics

Phoenix

Beth yw Prosiect y Ffenics?

Mae Prosiect y Ffenics yn fenter gan y Gwasanaeth Tân ac Achub sydd wedi ei anelu at bobl ifanc rhwng 13 - 17 oed.

Mae'r prosiect yn rhedeg cyrsiau pum diwrnod ar draws Gogledd Cymru sydd wedi eu cynllunio i gynorthwyo wrth ailgyfeirio egni pobl ifanc tuag at weithgareddau buddiol fydd yn cynorthwyo wrth integreiddio'r unigolion hynny gyda'u cyfoedion a'u cymunedau.

Prif nod y prosiect yw buddsoddi mewn pobl ifanc, gan ddefnyddio sgiliau, profiad ac enw da Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru er budd cymunedau Gogledd Cymru.

Mae gostwng marwolaethau ac anafiadau tân yn yr ardal yn fwy na dim ond darparu gwasanaeth ymateb brys effeithiol - drwy gydweithio gyda'r bobl ifanc yma i'w haddysgu am bwysigrwydd diogelwch tân a chanlyniadau tanau bwriadol a galwadau diangen.



Pwy all gymryd rhan yn y prosiect?

Mae'r prosiect wedi ei anelu ar gyfer unrhyw berson ifanc allai fanteisio o ddysgu a datblygu drwy gyfrwng gweithgar a chorfforol.

Mae'n targedu pobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o ymddygiad gwrth gymdeithasol, bwlio neu'n meddu ar broblemau ymddygiad yn yr ysgol. Mae pobl ifanc eraill sy'n cael eu hannog i fynychu'r cwrs yn cynnwys unigolion sy'n dioddef o hunan-barch isel neu ddiffyg hyder, y rhai hynny sy'n cael trafferth perfformio'n academaidd, y rhai hynny sydd angen dod o hyd i lwybr galwedigaethol a'r rhai hynny sy'n cael trafferth cyfathrebu gydag eraill.

Y nod yw diwygio rhai, neu bob un os yn bosib, o'r rhai hynny sy'n cymryd rhan a'u cynorthwyo i gael gwell cymhelliad a meddwl yn fwy positif amdanyn nhw'u hunain, sydd yn ei dro yn eu gwneud nhw'n ddinasyddion gwell.


 
Beth sy'n digwydd yn y cwrs?

Yn ystod yr wythnos bydd y bobl ifanc yn cymryd rhan yng ngweithgareddau'r gwasanaeth tân megis ymarferion rhedeg pibelli dwr, diffodd tân a chwilio ac achub. Maen nhw'n dysgu sgiliau defnyddiol fel Cymorth Cyntaf, gweithio fel tîm, rheoli risg a diogelwch tân.

Mae llawer o gyfleoedd am hunan fforiad megis ymdopi dan bwysau fel rhan o dîm  dan bwysau fel rhan o dîm a forio amgylchedd anghyfarwydd heb bum synnwyr, delio gyda thasgau anodd megis gweithio gyda ysgolion a chwblhau ymarferion tân.Yn ystod y pum diwrnod, mae'r bobl ifanc yn cael eu gwthio ym mhob ffodd er mwyn cael y gorau ohonynt, gan dderbyn cefnogaeth tîm ymroddedig, wedi eu hyfforddi'n arbennig i weithio'n ddiogel gyda phobl ifanc.


Canlyniadau

Mae tair ardal 'fanteisiol' yn dilyn o'r prosiect:

I'r Gwasanaeth Tân ac Achub:

Gostyngiad mewn Galwadau Diangen
Gostyngiad mewn Tanau a Llosgi Bwriadol
Gostyngiad mewn Marwolaethau ac Anafiadau Tân
Cryfhau cysylltiadau gydag asiantaethau eraill
Cynyddu ymwybyddiaeth diogelwch tân

I'r Gymuned:
Llai o ddigwyddiadau o ymddygiad gwrth gymdeithasol
Gostyngiad mewn troseddau
Cymunedau diogelach
Cymunedau cryfach

I'r person ifanc:
Cynnydd mewn hyder a hunan barch
Sgiliau rhyngberthnasol gwell
Unigolion diogelach
Sgiliau galwedigaethol
Gwell synnwyr o gyfeiriad a hunan barch

Dogfennau i'w lawr lwytho

Ffurflen atgyfeirio

Os ydych chi o Wynedd neu Ynys  Môn anfonwch yn ôl  at Phoenix@northwalesfire.gov.wales

Os ydych chi o Gonwy neu Sir Ddinbych anfonwch yn ôl  at Gillian Roberts

Os ydych chi o Wrecsam neu Sir y Fflint anfonwch yn ôl at  Brian Drawbridge

 

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth ar y prosiect, neu o gofrestru ar y rhestr aros, cysylltwch â Olwen Griffiths ar 07919548343 / Ebost

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen