Y Cadetiaid Tân Cenedlaethol
Mae’r Cadetiaid Tân Cenedlaethol yn sefydliad ieuenctid sy’n cael ei redeg gan y Gwasanaethau Tân ac Achub mewn partneriaeth â Chyngor Cenedlaethol Y Prif Swyddogion Tân.
Nod y cynllun yw creu cymunedau mwy diogel a chadarn trwy ddatblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth pobl ifanc ynglŷn â’u cymunedau er mwyn iddynt ddod yn ddinasyddion gwell.
Mae’r fenter yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11 ac 18 ennill cymwysterau cenedlaethol megis BTEC Lefel 2 yn y pwnc y Gwasanaethau Tân ac Achub yn y Gymuned neu dystysgrifau galwedigaethol mewn sawl maes.
Mae’r bobl ifanc yn cael dysgu sgiliau amrywiol megis gwaith tîm, datrys problemau a chyfathrebu ochr yn ochr â sgiliau achub bywyd ehangach er mwyn gwella eu rhagolygon o ran cyflogaeth.
Mae 8 uned yng Ngogledd Cymru, sef:
- Amlwch
- Biwmares
- Y Waun
- Conwy
- Llanfairfechan
- Prestatyn
- Pwllheli
- Rhuthun
Maent yn cwrdd unwaith yr wythnos yn eu gorsaf dân leol – mae’r nosweithiau cyfarfod fel a ganlyn:
Amlwch – Nos Lun
Biwmares - Nos Fawrth
Conwy – Nos Lun
Y Waun – Nos Iau
Llanfairfechan – Nos Fercher a Nos Iau
Prestatyn – Nos Fercher
Pwllheli – Nos Fercher
Rhuthun – Nos Iau
Sut i ymgeisio
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Gadet Tân, cliciwch yma i gael ffurflen gais ac yna anfonwch hi ar e-bost i nationalfirecadets@gwastan-gogcymru.org.uk.
Nodwch pa uned o’r Cadetiaid Tân yr hoffech ymuno â hi.
Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost i nationalfirecadets@gwastan-gogcymru.org.uk