Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Addysg

Addysg

Mae ein Addysgwyr Diogelwch Cymunedol yn ymweld ag ysgolion cynradd ac uwchradd yng Ngogledd Cymru er mwyn addysgu'r plant ar ddiogelwch tân.

Rydym yn targedu blynyddoedd 2 a 5 yn ysgol gynradd ar hyn o bryd a blwyddyn 7 yn ysgol uwchradd.

Rydym yn trafod peryglon cyffwrdd matsys gan ddefnyddio stori sbarc efo plant blwyddyn 2. efo plant blwyddyn 5 rydym yn trafod pwysigrwydd larymau mwg a cynlluniau dianc. Diogelwch trydan, efo pwyslais ar offer gwefru (charging), sy'n flaenoriaeth efo plant blwyddyn 7.

Os hoffwch drefnu ymweliad cysylltwch a Gwawr Williams neu Emma Burnet. Gall yr ymweliad fod yn Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog.

Sbarc ydi'r masgot ar gyfer gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. rydym yn defnyddio Sbarc i helpu addysgu plant a phobl ifanc am ddiogelwch tân ac mae'n ymddangos yn aml ar ein eitemau hyrwyddo. 

Mae Criw Craidd yn gynllun addysgiadol wedi'i anelu at blant blwyddyn 7. Mae'r gynllun aml asiantaeth er mwyn addysgu plant sut i gadw'n ddiogel mawn amryw o sefyllfaoedd. Mae'r asiantaethau yn cynnwys: Gwasanaeth tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Cymorth i Ferched, RNLI, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Network Rail, St John's ambulance a gofalwyr ifanc. Mae grwpiau o ddisgyblion yn symud o un asiantaeth i'r llall ac yn treulio tua 30 munud efo pob un.

Ar gyfer adnoddau addysgiadol ewch i www.staywise.cymru. 


 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen