Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Hyfforddiant Staff - Beth Ddylid Ei Gynnwys.

O dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ( Y Gorchymyn Diogelwch Tân) Erthygl 21-(1) 'Mae'n rhaid i'r person cyfrifol sicrhau ei fod yn darparu hyfforddiant diogelwch tân ar gyfer ei weithwyr'-

Mae'r canllawiau a gyhoeddwyd gan yr adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, a gyhoeddwyd er mwyn cynorthwyo gyda'r broses o asesu'r risgiau tân o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân, yn rhoi ar weiniad ar beth ddylid ei gynnwys yn yr hyfforddiant diogelwch tân;

Beth ddylid ei gynnwys.

Dylai'r hyfforddiant ar gyfer y staff gynnwys y canlynol;

• beth i'w wneud os canfyddir tân;

• sut i seinio rhybudd  a beth fydd yn digwydd wedi hynny;

• beth i'w wneud os yw'r larwm yn seinio;

•y broses o rybuddio gwesteion, preswylwyr ac ymwelwyr yn cynnwys, os yw hynny'n addas, eu tywys tua'r allanfeydd;

• y brosesgadael mewn argyfwng fel y gall pawb gyrraedd man ymgynnull mewn lle diogel ;

• lleoliad ac , os yn addas, y defnydd o offer diffodd tân;

• lleoliad y llwybrau dianc, yn enwedig y rhai na chânt eu defnyddio'n rheolaidd;

• sut i agor yr holl allanfeydd argyfwng;

•pwysigrwydd cadw'r drysau tân ynghau i atal lledaeniad y tân, gwres a mwg;

•lle bo hynny'n briodol,  sut i ddiffodd peiriannau a'r broses o ynysu'r cyflenwad pŵer pe byddai tân;

•y rhesymau dros beidio â defnyddio'r lifftiau (ar wahân i rai sydd wedi eu gosod yn arbennig neu rai dynodedig, yn dilyn asesiad risgiau tân addas);

•defnyddio a storio sylweddau hynod fflamadwy neu ffrwydrol yn ddiogel a'r peryglon cysylltiedig; a

•phwysigrwydd diogelwch tân cyffredinol. Sydd yn cynnwys gwaith cynnal a chadw sylfaenol.

(daw'r wybodaeth o'r Canllaw Mannau Cysgu - efallai y bydd canllawiau a gyhoeddir gan sectorau eraill yn amrywio rhywfaint).

Synnwyr cyffredin yw'r rhain, ac mewn safleoedd cyffredin mae'r dasg yn un syml. Ond mewn safleoedd cymhleth, sydd yn delio gyda defnyddiau peryglus neu os oes pobl 'pob perthnasol' bregus, yna efallai y bydd angen dulliau ychydig yn wahanol o fynd ati.

Rhestr wirio i'r Bobl Gyfrifol

Dyma rai cwestiynau y gall y 'Person cyfrifol' eu defnyddio fel rhestr wirio i sicrhau bod y trefniadau yn addas:

• A ydych chi wedi trafod y cynllun brys gyda'ch staff, yn cynnwys y bobl yr ydych wedi eu penodi ar gyfer tasgau neilltuol?

• A ydych chi wedi rhoi gwybod i breswylwyr a gwesteion beth i'w wneud mewn argyfwng?

• A ydych chi wedi rhoi gwybodaeth i'ch staff am sylweddau peryglus?

• A oes gennych chi drefniadau mewn lle ar gyfer hysbysu staff dros dro?

• A oes gennych chi drefniadau mewn lle ar gyfer hysbysu cyflogwyr eraill sydd gan weithwyr gwadd ar eich safle, megis contractwyr cynnal a chadw a glanhawyr?

• A ydych wedi cydlynu gyda'r bobl gyfrifol eraill a chontractwyr yn yr adeilad er mwyn trafod eich trefniadau diogelwch tân?

• A ydych wedi cofnodi manylion am unrhyw wybodaeth neu gyfarwyddiadau yr ydych wedi eu derbyn ynghylch cydweithio a chydlynu ag eraill?

• A yw'r trefniadau sydd gennych mewn lle ar gyfer galw'r gwasanaeth tân ac achub yn ddigonol?

Hyfforddiant sy'n Benodol i'r Safle.

Wrth ateb y cwestiynau uchod mae'n hanfodol bod yr hyfforddiant yn benodol i'r safle. Er bod modd cynnal hyfforddiant generig mewn perthynas â nodweddion ac ymddygiad tân, mae'n bwysig bod y cynllun brys yn dwyn ystyriaeth i gynllun yr adeilad, y peryglon sydd yn bresennol a'r bobl berthnasol sydd yn defnyddio'r adeilad e.e. byddai'r cynllun dianc ar gyfer cartref nyrsio 3 llawr yn dra gwanhaol i floc o swyddfeydd un llawr.  Bydd natur yr hyfforddiant a chysondeb yr hyfforddiant hefyd yn amrywio. Bydd safleoedd sydd gan fwy o beryglon yn gofyn am hyfforddiant cadarnach ac ymarferion tân cyson.

Hyfforddiant Ychwanegol

Dylai fod gan yr holl staff yr ydych wedi eu henwi yn eich cynllun gweithredu mewn argyfwng pe byddai tân (e.e. penaethiaid adran, marsialiaid tân neu wardeiniaid ac, mewn safleoedd cymhleth, bartïon neu dimau tân) , gael gwybodaeth am eich asesiad risgiau tân a derbyn hyfforddiant ychwanegol.

Efallai y bydd y swyddogaethau hyn yn cynnwys:

 

  • helpu pobl i adael y safle;

 

  • edrych i weld a yw pawb wedi llwyddo i adael y safle;

 

  • defnyddio offer diffodd tân os yw'n ddiogel i wneud hynny;

 

  • cydlynu gyda'r gwasanaeth tân ac achub ar ôl iddynt gyrraedd;

 

  • diffodd offer hanfodol neu beryglus; ac

 

  • ymgymryd â swyddogaethau goruchwyliol/rheoli mewn unrhyw sefyllfa.

Efallai y bydd yr hyfforddiant ychwanegol yn cynnwys( gan ddibynnu ar eich asesiad risg a'ch cynllun gweithredu):

  • gwybodaeth fanwl o'r strategaeth diogelwch tân ar gyfer y safle;

 

  • ymwybyddiaeth o ymddygiad dynol mewn achos o dân;

 

  • sut i annog eraill i ddefnyddio'r llwybr dianc mwyaf addas;

 

  • sut i gynnal archwiliad yn ddiogel ac adnabod ardaloedd peryglus na ddylid eu defnyddio;

 

  • yr anawsterau y gallai rhai pobl, pobl anabl yn benodol, eu cael wrth adael ac unrhyw drefniadau arbennig ar gyfer gadael mewn argyfwng sydd wedi cael eu cynllunio ymlaen llaw;

 

  • hyfforddiant ychwanegol ar sut i ddefnyddio offer diffodd tân sy'n addas  i'r safle;

 

  • dealltwriaeth o offer diffodd tân parhaol megis taenellwyr neu systemau pwmpio nwy; ac

 

  • adrodd am ddiffygion, digwyddiadau neu ddamweiniau a fu bron a digwydd.

Ymarferion Tân

Mae ymarferion tân yn bwysig nid yn unig o safbwynt canfod gwendidau yn y cynllun gweithredu brys, gan fod modd eu defnyddio fel rhan o'r hyfforddiant.  Mae rhoi theori ar waith yn cynorthwyo cyfranogwyr i greu delwedd a chael profiad o ddigwyddiadau brys, yn enwedig os defnyddir cyfres o wahanol senarios. Gall ymarferion tân sydd wedi eu cynllunio a'u cyflawni yn dda gadarnhau pa mor llwyddiannus oedd yr hyfforddiant, gan ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol iawn ar gyfer sesiynau hyfforddiant yn y dyfodol. Dylid cynnal ymarferion tân o leiaf unwaith y flwyddyn, neu fel y'u pennwyd yn yr asesiad risg - neu'n amlach os oes trosiant uchel ymysg y staff.

Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl ar ymarferion tân ac ymarferion gadael mewn argyfwng yn Safon Brydeinig 5588-12.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen