Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Sut i Ddewis Hyfforddwr Diogelwch Tân

'Mae'n rhaid i'r Person Cyfrifol sicrhau bod yr holl weithlu yn derbyn hyfforddiant diogelwch digonol..." [Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 - Erthygl 21(1)].

O dan y Gorchymyn Diogelwch Tân mae'n rhaid i'r Person Cyfrifol gynnal hyfforddiant diogelwch tân a fydd yn cynnwys:-

a)  'cyfarwyddyd addas a digonol a hyfforddiant ar y rhagofalon a dulliau gweithredu addas sydd yn rhaid i'r gweithiwr eu rhoi ar waith er mwyn diogelu ei hun a phobl eraill berthnasol ar y safle;

b)  ail gynnal yr hyfforddiant yn gyson lle bo'n hynny'n addas;

c)  ei addasu i gynnwys risgiau newydd neu wahanol  sy'n peryglu'r gweithlu dan sylw;

ch) ei ddarparu mewn dull sydd yn addas i'r risgiau a ganfuwyd yn ystod yr asesiad

risg; a

d) cynnal yr hyfforddiant yn ystod oriau gwaith.'[Gorchymyn Diogelwch Tân -Erthygl  21(2)].

Efallai nad oes gan y Person Cyfrifol y sgiliau angenrheidiol neu'r amser i gyflawni'r gofyniad hwn a'i fod yn dymuno cael rhywun arall i gwblhau'r dasg.   Dim ond person cymwys ddylai gwblhau'r dasg.

'ystyrir rhywun yn berson cymwys i ddiben yr erthygl hon os yw wedi derbyn hyfforddiant digonol ac os oes ganddo brofiad neu wybodaeth a phriodweddau eraill i'w alluogi i ymgymryd â'r mesurau ataliol ac amddiffynnol yn y modd cywir' [Gorchymyn Diogelwch Tân - Erthygl 18(5)].

Efallai bod y cymorth hwn ar gael yn y gweithle neu gan gontractwr allanol.  Mae'r cyfrifoldeb yn syrthio ar y Person Cyfrifol yn y pen draw ac felly mae'n bwysig eu bod yn cael help gan berson CYMWYS.

Dylai'r person Cymwys feddu ar y wybodaeth, sgiliau a'r gallu i wella perfformiad.  Mewn perthynas â diogelwch tân (sy'n berthnasol i'r safle) dylai fod ganddynt wybodaeth am ddiogelwch tân cyffredinol (sy'n berthnasol i'w amgylchedd gwaith penodol hwy) a sgiliau hyfforddiant a chyflwyno.    Dylech ddewis hyfforddwr diogelwch tân sydd yn addas ar gyfer eich amgylchiadau chi ac sy'n cynnwys cyfuniad o'r sgiliau a nodir uchod a fydd yn eu galluogi i gyflwyno'r  hyfforddiant yn ystyrlon. Dylai'r hyfforddiant gefnogi a chyfiawnhau'r hyn a nodir yn y cynllun gweithredu mewn achos o dân, a dylai fod yn addas i'r peryglon a'r risgiau a ganfuwyd yn ystod yr asesiad risgiau tân.

Wrth ddewis hyfforddwr dylech ystyried y rhestr isod (os gwelwch yn dda, byddwch yn ymwybodol nad yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol ac mai dim ond arweiniad cyffredinol ydyw):

  •     Profiad blaenorol o gyflwyno hyfforddiant diogelwch tân
  •     Cymwysterau yn y maes a chefndir yr hyfforddwr
  •     Profiad o safle, fusnes neu ddiwydiant tebyg i'ch un chi
  •     Argymhellion, geirda neu dystlythyrau gan gwsmeriaid
  •     Aelod o gorff proffesiynol cydnabyddedig
  •     Achrediad ar gofrestr genedlaethol o hyfforddwyr diogelwch tân

Mae sawl ffordd y gallwch ddod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant diogelwch tân:

  •  Argymhelliad y gellid ymddiried ynddo
  • Google neu beiriant chwilio arall e.e. "hyfforddiant diogelwch tân" 
  • Llyfr ffôn neu gyfeirlyfr e.e. o dan "tân" neu "ymgynghorwyr iechyd a diogelwch"
  • Cofrestrau Hyfforddiant Diogelwch Tân Cenedlaethol e.e. Sefydliad y peirianwyr Tân
  • Mae cwmiau sydd yn darparu larymau mwg, offer diffodd tân a gwasanaethau eraill i amffiddyn rhag tân hefyd yn gallu darparu hyfforddiant

Nod Adran Addysg i Fusnesau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yw  ymgysylltu â'r gymuned fusnes, busnesau bychan a chanolig yn benodol, i ddarparu cyngor ac arweiniad ar sut i fodloni gofynion y Gorchymyn Diogelwch Tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen