Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Yn y cartref

Dyma ddeuddeg peth pwysig i'w gwneud er mwyn bod yn ddiogel rhag tân yn y cartref

Gosodwch larymau mwg ar bob lefel yn eich tŷ. Cadwch nhw'n lân rhag llwch, a'u profi unwaith yr wythnos. Am Archwiliad Diogel ac Iach ac i gael gosod larwm mwg am ddim, os oes angen, cliciwch yma.  

Gwnewch gynllun dianc  fel bod pawb yn eich cartref yn gwybod sut i ddianc petai yna dân.

Cadwch y ffyrdd allan o'ch cartref yn glir fel bod modd i bobl ddianc os bydd tân. Gwnewch yn siwr fod pawb yn eich cartref yn gallu dod o hyd i oriadau'r drysau a'r ffenestri yn hawdd.

Byddwch yn ofalus iawn yn y gegin - mae dros hanner y tanau mewn cartrefi yn digwydd yn y gegin. Peidiwch byth â gadael plant ifanc ar eu pennau eu hunain yn y gegin.

Byddwch yn ofalus iawn wrth goginio gydag olew poeth. Gallech ystyried brynu ffriwr saim dwfn gyda thermostat i reoli'r gwres (os nad oes gennych chi un yn barod).

Peidiwch byth â gadael canhwyllau wedi eu cynnau mewn ystafelloedd gwag neu mewn ystafelloedd lle mae plant ar eu pennau eu hunain. Gwnewch yn siwr bod canhwyllau wedi eu gosod yn ddiogel mewn llestr addas ar arwyneb sydd ddim yn llosgi a'u bod yn bell oddi wrth unrhyw ddeunydd a allai losgi.

Gwnewch yn siwr fod sigarennau wedi eu diffodd yn iawn a bod y stympiau'n cael eu rhoi mewn cynhwysydd diogel, a pheidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.

Dechreuwch fynd i'r arferiad o gau'r drysau bob nos. Os ydych eisiau gadael drws ystafell wely plentyn yn agored, caewch ddrysau'r ystafell fyw a'r gegin. Gall hyn achub eu bywydau os bydd tân.

Peidiwch â gorlwytho socedi trydan. Cofiwch, un plwg ar gyfer pob soced.

Cadwch fatsis a thanwyr ymhell o gyrraedd ac o olwg plant.

Byddwch yn ofalus iawn pan fyddwch wedi blino neu wedi bod yn yfed.

Peidiwch â rhoi'r teledu neu gyfarpar trydanol arall yn y modd segur (standby) - fe allai hyn achosi tân. Dylech eu diffodd yn llwyr bob amser, a thynnu'r plwg allan pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen