Recriwtio

Pam gweithio i ni?

Mae gyrfa gyda’r gwasanaethau brys yn yrfa y gallwch chi ymfalchïo ynddi.

Mae pob gweithiwr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, waeth beth fo’u rheng neu rôl, yn gwneud cyfraniad pwysig i wneud Gogledd Cymru’n lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag o.

Bydd staff yn sôn wrthoch chi am y balchder y maent yn ei deimlo wrth weithio i sefydliad sydd yn achub bywydau a helpu’r gymuned y maent yn byw neu weithio ynddi.  

Er bod rôl y diffoddwr tân yn fwy gweledol nag eraill ac yn un sy’n cael ei pharchu’n gyhoeddus, mae’r gwaith hanfodol sydd yn cael ei gyflawni y tu ôl i’r llenni yr un mor bwysig ac yn cael yr un parch yn y Gwasanaeth. Fe allai hyn olygu gwneud yn siŵr bod staff yn cael eu talu ar amser, sicrhau bod offer ac adnoddau addas ar gael gan staff, meithrin cyswllt gyda chymunedau lleol a rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar nifer o faterion neu ateb a delio gyda galwadau brys yn ein canolfan reoli, mae pob math o gyfleoedd gyrfa rhagorol a buddion ar gael, gan gynnwys:

  • Strwythurau cyflog sefydlog cystadleuol
  • Cynllun pensiwn ar sail cyfraniadau
  • Cynllun gweithio hyblyg
  • Talebau Gofal Plant
  • Mynediad am ddim i gampfeydd y Gwasanaeth ledeled Gogledd Cymru
  • Mynediad i fentrau iechyd a llesiant, gan gynnwys yr hawl i dreulio 45 munud yr wythnos yn gwneud ymarfer corff i wella iechyd a lles (megis mynd am dro, mynd i’r gampfa a seiclo ayb.)
  • Cael defnyddio beiciau’r Gwasanaeth a chymryd rhan yn y cynllun seiclo i’r gwaith
  • Rhaglen cefnogi cydweithwyr cyfrinachol ar gyfer delio gyda phob math o broblemau boed yn bersonol, domestig, cymdeithasol neu’n ymwneud â’r gwaith
  • Mynediad I Elusen y Diffoddwyr Tân sydd yn cefnogi POB aelod o staff ynghyd â’u teuluoedd,
  • Mynediad i’r gronfa Les mewnol
  • Hyfforddiant barhaus a chyfleoedd datblygu gyrfa
  • Lifrai i bob aelod o’r staff
  • Disgownt gan gannoedd o siopau a darparwyr gwasanaethau sydd eisiau gwerthfawrogi’r gwaith yr ydych chi’n ei wneud
  • Gwasanaeth iechyd galwedigaethol sydd ar gael bob awr o’r dydd drwy gydol y flwyddyn ac sydd yn darparu cefnogaeth broffesiynol i staff.                                                     

 Mae’r gwasanaeth iechyd galwedigaethol yn cynnwys-

  • Mynediad at wasanaeth cwnsela, gwybodaeth a chyngor dros y ffôn ac ar-lein
  • Gwasanaeth cwnsela wyneb yn wyneb os yn addas
  • Therapi ymddygiad wybyddol os yn addas
  • Cefnogaeth i reolwyr ac atgyfeiriadau
  • Rhaglenni iechyd a lles
  • Meddyginiaeth
  • Ymateb i ddigwyddiadau critigol/trawmatig
  • Rhaglenni rheoli straen
  • Ffisiotherapi

 

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen