Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwr Tân

Enw: Gary Rôl: Diffoddwr Tân

 

Ychydig bach am fy rôl…

Rydw i’n ddiffoddwr tân mewn gorsaf dân criw dydd.

Yn y rôl yma rydw i hefyd yn hyfforddwr achub. Rydw i’n mentora’r rhaglenni prentisiaeth ac rydw i’n cydlynu’r cyrsiau Dug Caeredin ar yr orsaf.

Beth ydi’ch gweithgareddau ar ddiwrnod arferol?

Rydw i fel arfer yn cwblhau sesiwn ffitrwydd cyn dechrau gweithio.

Rydw i wedyn yn dechrau fy nyletswyddau dydd i ddydd – maent yn cynnwys stocrestrau, profion safonol a gwiriadau cerbydau.

Ar ddiwrnod arferol rydym hefyd yn gwneud gwaith diogelwch cymunedol, cwblhau hyfforddiant ac ymateb i ddigwyddiadau yn ôl y galw.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Mae pob diwrnod yn wahanol,. Gweithio fel rhan o dîm ac ymateb i ddigwyddiadau.

Rydw i hefyd yn mwynhau cynnal y sesiynau Dug Caeredin a chyflwyno’r cwrs achub â rhaffau.

Pam wnaethoch chi ddewis hyn fel gyrfa?

Ro’n i eisiau her a gyfra a fyddai’n fy nghadw’n heini.

Pa gymwysterau neu brofiad sydd ei angen i wneud y gwaith?

Cymaint â phosibl a sgiliau ymarferol a phrofiad bywyd - hefyd bod yn ben agored, hyblyg a phositif. Mae synnwyr digrifwch da hefyd yn helpu …

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd yn awyddus i ddilyn hyn fel gyrfa? Peidiwch byth â rhoi’r gorau i ddysgu a datblygu (mae pob diwrnod yn ddiwrnod ysgol!) Byddwch yn agored ac yn barod i ymgymryd â heriau. Gofynnwch am help pan fyddwch ei angen. Mwynhewch y siwrne!

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen