Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Prentisiaethau

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gyfres o Raglenni Prentisiaeth sydd ar agor i bobl ifanc sydd gan ddiddordeb mewn dod yn aelodau o’r gwasanaeth tân ac achub yn y dyfodol.

Cliciwch ar y lluniau isod i gael gwybod mwy am ein prentisiaethau gwahanol.

Mae’r gwasanaeth tân ac achub yn gwneud mwy na diffodd tanau– rydym yn cynnig dewis eang o raglenni prentisiaeth achrededig dros gyfnodau gwahanol mewn adrannau amrywiol.

Mae’r prentisiaid yma’n dysgu sut i chwarae rhan hanfodol yn y dasg o amddiffyn ein cymunedau, darparu cefnogaeth gan gynnwys ymateb ac amddiffyn, darparu rhaglenni diogelwch cymunedol, sicrhau fod busnesau yn dilyn rheolau diogelwch tân, helpu hybu ymgyrch diogelwch tân, yn ogystal â sicrhau bod cerbydau’r gwasanaeth tân ac achub yn cael eu cynnal a’u cadw’n gywir.

Mae’r hyfforddiant yn meithrin sgiliau ymarferol a theori sydd yn galluogi i’r prentisiaid chwarae rôl hanfodol gyda ni. Maent yn cael eu hyfforddi a’u mentora yn barhaus ac maent hefyd yn cael eu hasesu’n rheolaidd.

Mae’r rhaglenni’n rhan bwysig o weledigaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer y dyfodol wrth i ni barhau i wynebu heriau a chwilio am ffyrdd o addasu i gyd-fynd â’r newidiadau sy’n digwydd o’n cwmpas.

Mae prentisiaethau modern yn rhan allweddol o’r strategaeth waith genedlaethol ac mae'r Gwasanaeth yn falch o gynnig y gefnogaeth yma i bobl ifanc.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen